Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1, Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Ionawr 2023
Amser:
09.30 -
11.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13289
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Sian Gwynedd, BBC Cymru Wales Siân Doyle, S4C Nia Britton, ITV |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Rhun Davies (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
2 Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gyda darlledwyr cenedlaethol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BBC Cymru, S4C ac ITV Cymru.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am ragor o wybodaeth yn ymwneud â’r sesiwn.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ôl-drafodaeth breifat
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod y dystiolaeth gan y Prif Weinidog
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth.
7 Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i Benodiadau Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i drafod ei ymateb drafft yn ei gyfarfod nesaf a oedd i’w gynnal ar 18 Ionawr 2023.
8 Canllawiau ar Drafodion Rhithwir a Hybrid
8.1 Trafododd y Pwyllgor y canllawiau.